Mae tad y pensaer coll o Fryste wedi dweud y byddai’n “rhyddhad” petai’n cael cadarnhad mai hi yw’r corff a gafwyd mewn coedwig fechan ddwy filltir o’i chartref.

Roedd Joanna Yeates, 25 oed, wedi diflannu heb unrhyw esboniad fwy nag wythnos yn ôl ar ôl bod allan gyda ffrindiau.

Dyw’r heddlu ddim wedi dweud yn bendant mai ei chorff hi sydd wedi ei ddarganfod yn yr eira ac maen nhw hefyd yn dweud ei bod yn rhy gynnar i ddweud beth oedd achos y farwolaeth.

Cymryd yn ganiataol

Ond mae rhieni’r ferch ifanc wedi cael gwybod ac fe ddywedodd David Yeates eu bod yn cymryd yn ganiataol mai eu merch, Joanna, yw hi.

Fe ddywedodd wrth bapur newydd y Sunday Times y byddai hynny’n well na gorfod byw heb wybod beth oedd wedi digwydd iddi hi.

Fe gafodd yr heddlu eu galw nos Sul diwetha’, ar ôl i gariad Joanna Yeates ddychwelyd i’w fflat a methu dod o hyd iddi.

Roedd wedi cael ei gweld ddiwetha’n prynu pizza o siop Tesco leol.

Llun: Joanna Yeates (llun gan yr heddlu)