Ffrwydrodd bomiau mewn pecynnau yn llysgenadaethau’r Swistir a Chile yn Rhufain heddiw, gan anafu dau berson.

Mae heddlu’r brifddinas Eidalaidd yn credu nad ymgyrchwyr neu anarchwyr lleol oedd yn gyfrifol.

Ffrwydrodd y bom cyntaf y tu mewn i lysgenhadaeth y Swistir tua hanner ddydd. Aethpwyd a’r dyn a agorodd y pecyn i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Tu tair awr yn ddiweddarach dywedodd llygaid dystion y tu allan i lysgenhadaeth y Swistir eu bod nhw wedi clywed ffrwydrad. Cafodd un person ei anafu, meddai’r heddlu.

“Roedd yn rhan o don o derfysgaeth sy’n targedu llysgenadaethau, rywbeth sy’n fwy pryderus nag ymosodiad unigol,” meddai Maer Rhufain, Gianni Alemanno.

Ychwanegodd bod awdurdodau’r Eidal yn dilyn “trywydd rhyngwladol” wrth ymchwilio i’r ffrwydradau.

Fis diwethaf, cafodd 14 bom eu gyrru at lysgenadaethau yn Athens, yn ogystal ag Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, a Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi.

Dim ond dau o’r pecynnau ffrwydrodd a ni chafodd unrhyw un eu hanafu. Mae grŵp anarchaidd o’r Wlad Groeg o’r enw Conspiracy Nuclei of Fire wedi hawlio cyfrifoldeb.