Mae Vince Cable wedi dweud ei fod yn “grac iawn” ar ôl i bapur newydd recordio sylwadau preifat ganddo ddechrau’r wythnos.
Cyhuddodd yr Ysgrifennydd Busnes papur newydd y Daily Telegraph o danseilio ei waith yn Aelod Seneddol drwy recordio cyfarfod ‘preifat’ gydag etholwr.
Cafodd stŵr gan David Cameron ac fe gollodd ei gyfrifoldeb dros reoli busnesau sy’n ymwneud â’r cyfryngau ar ôl dweud ei fod o “wedi mynd i ryfel” â Rupert Murdoch, prif weithredwr cwmni News Corp.
Mewn cyfweliad â’i papur lleol, dywedodd Aelod Seneddol Twickenham bod yr achos wedi gwneud “niwed mawr” i’r berthynas rhwng Aelodau Seneddol a’u hetholwyr.
“Rydw i’n teimlo’n grac ac yn gryf iawn am hyn,” meddai wrth bapur newydd Richmond and Twickenham Times.
“Rydw i wedi cynnal dros 600 o gyfarfodydd agored gydag etholwyr dros yr 13 mlynedd diwethaf.
“Mae miloedd ar filoedd o etholwyr wedi dod i fy ngweld i, yn aml wrth drafod materion anodd a chyfrinachol.
“Pan mae rywun sydd ddim yn etholwr yn defnyddio enw a chyfeiriad ffug a meicroffon cudd – mae yn tanseilio yn llwyr eich gwaith yn Aelod Seneddol.
“Mae pob un o fy nghydweithwyr, o bob plaid, yn teimlo bod hyn wedi gwneud niwed mawr.”
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Telegraph Media Group bod cyhoeddi y stori “yn niddordeb y cyhoedd”.