Mae cyn-arweinydd Plaid Sosialaidd yr Alban, Tommy Sheridan, wedi ei gael yn euog o ddweud celwydd wrth fynd a phapur newydd News of the World i’r llys am ei enllibio.

Cymerodd chwe awr i reithgor o 12 o ferched a dau ddyn benderfynu bod Tommy Sheridan yn euog o anudoniaeth ar ôl achos llys 12 wythnos yn yr Uchel Lys yng Nglasgow.

Derbyniodd Tommy Sheridan £200,000 yn 2006 ar ôl i’r News of the World honni ei fod yn odinebwr oedd yn mynychu clybiau ‘swingers’.

Cafodd y cyhuddiadau yn erbyn ei wraig Gail eu tynnu’n ôl ddydd Gwener.

Clywodd y llys gan gyfres o aelodau o Blaid Sosialaidd yr Alban oedd yn dweud bod Tommy Sheridan wedi cyfaddef iddo ymweld â chlwb ‘swingers’ ym Manceinion ar ddau achlysur gwahanol.

Mae Tommy Sheridan wedi mynnu ei fod yn ddieuog drwy gydol yr achos llys ac wedi honni fod fendeta yn ei erbyn.

Dywedodd y barnwr wrth Tommy Sheridan ei fod “wedi ei gael yn euog o drosedd difrifol, ac fe ddylech chi ddychwelyd i’r llys gan ddisgwyl dedfryd o garchar”.