Mae rhywun o ardal Port Talbot wedi hawlio gwobr £5.6m y Loteri genedlaethol yn dilyn apêl gan y trefnwyr Camelot.
Hawliodd y person sydd heb ei enwi’r arian bron i fis ar ôl i’r rhifau gael eu datgelu ar 1 Rhagfyr.
Ni fydd Camelot yn enwi’r enillydd oni bai bod y person yn cytuno i hynny.
“R’yn ni wrth ein bodd bod enillydd y wobr wych yma wedi dod ymlaen a hawlio’r arian cyn y Nadolig, ac r’yn ni’n gobeithio y byddwn nhw’n mwynhau,” meddai llefarydd ar ran cwmni Camelot.
“Fe fyddai wedi bod yn anffodus pe na bai’r enillydd wedi derbyn yr arian sylweddol yma. Hoffwn atgoffa chwaraewyr i gadw llygad ar eu tocynnau bob tro y maen nhw’n chwarae.”
Fe fydd yr enillydd diweddaraf yn wynebu cyfres o brofion i wneud yn siŵr mai nhw yw’r enillydd cyn derbyn y jacpot o £5,629,964.