Mae’r Gweinidog Treftadaeth, Ieuan Wyn Jones, wedi dweud bod stociau graean rhai o gynghorau Cymru yn “isel iawn”.

Addawodd bod rhagor o halen ar y ffordd wrth i Lywodreath y Cynulliad weithio i gadw’r priffyrdd ar agor dros y Nadolig.

Dywedoedd Ieuan Wyn Jones bod y stociau mawr o halen oedd wedi eu casglu cyn y gaeaf “bellach wedi gostwng cryn dipyn” o ganlyniad i’r eira cynnar.

Ond mynnodd fod cyflenwadau halen yn cael eu rheoli i sicrhau bod y ffyrdd dan gyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad yn aros yn glir.

Ychwanegodd y bydd y llywodraeth yn cydlynu’n glos gyda’r Awdurdodau Lleol a helpu rhannu’r cyflenwadau halen gyda’r cynghorau ar sail achosion unigol.

Disgwylir cyflenwadau pellach o halen dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf i ddechrau adlenwi’r stociau.

Stociau’n isel

“Wedi’r cyfnod eithriadol a hir hwn o rew ac eira difrifol, mae’r stociau sylweddol o halen a oedd wedi’u cronni ledled Cymru bellach wedi gostwng cryn dipyn,” meddai.

“Mae digon o stoc ar ôl i barhau i allu cynnal lefelau uchel o weithgarwch graeanu dros gyfnod y Nadolig, a byddwn yn parhau i’w reoli er mwyn sicrhau y gallwn gadw ein cefnffyrdd allweddol ar agor dros yr wythnosau nesaf.

“Mae rhai awdurdodau, sydd wedi dioddef sawl gwaith yn sgil y tywydd oer dros yr wythnosau diwethaf, yn dweud bod eu stociau yn isel iawn ar hyn o bryd.

“Mewn ymateb byddwn yn parhau i rannu cyflenwadau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y traffyrdd a’r cefnffyrdd yn strategol, ac yn ôl yr angen.

“Yn ddiweddar, rydym wedi dyrannu 900 tunnell i Sir Gaerfyrddin a 500 tunnell i Sir Benfro, a byddwn yn rhannu 1000 o dunelli ledled y Gogledd.

“Yn ogystal â’r stociau sy’n weddill o halen gennym ledled Cymru, mae symiau sylweddol wedi’u prynu a byddant yn cyrraedd dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

“Archebwyd y stociau ychwanegol hyn ymhell cyn y cyfnod presennol o dywydd difrifol. Mewn ymateb i’r digwyddiadau diweddar, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion barhau i ddod o hyd i stociau newydd er mwyn sicrhau y gellir adfer ein stociau ar gyfer y dyfodol.

“Rwyf i a fy swyddogion wedi bod mewn cyswllt rheolaidd ag awdurdodau lleol Cymru ac wedi cydweithio â nhw i sicrhau bod ein holl ymdrechion, yn ystod tywydd mor eithriadol o ddrwg â hwn, wedi’u cydgysylltu.

“Rwyf hefyd wedi cael trafodaethau â Chymdeithas Llywodraeth leol Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfun ynghylch storio, dosbarthu a chydgysylltu cyflenwadau halen.”