Mae Grand National Cymru wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd oherwydd y tywydd gaeafol.
Roedd disgwyl i’r ras gael ei chynnal ar 27 Rhagfyr ond mae’r trefnwyr wedi penderfynu ei symud i 8 Ionawr.
Archwiliwyd y trac yng Nghas-gwent y prynhawn yma. Mae rhagolygon y tywydd yn awgrymu y bydd rhagor o eira yn disgyn yno yr wythnos nesaf.
Bu’n rhaid canslo’r ras yn 1996 oherwydd y tywydd ond mae’r trefnwyr wedi cytuno i’w ohirio am 12 diwrnod yn y gobaith y bydd y tywydd yn gwella.