Mae trefnwyr Uwch Gynghrair Cymru wedi cytuno i ymestyn hanner cyntaf y tymor hyd at dair wythnos ymhellach ar ôl i’r tywydd gaeafol arwain at ohirio sawl gêm.

Yn ôl y trefniadau gwreiddiol byddai hanner cyntaf y tymor wedi dod i ben ar 15 Ionawr, a’r tymor yn rhannu rhwng y chwech uchaf a’r chwech isaf.

Roedd sawl un o’r clybiau yn credu y byddai’n ormod o straen ceisio chwarae sawl gêm erbyn canol y mis nesaf.

Roedd Llanelli yn wynebu chwarae deg gêm cyn canol mis nesaf a Prestatyn yn gorfod chwarae wyth. Ond dan y trefniadau newydd fe fydd gan dimau tan 5 Chwefror i chwarae eu gemau.

Mae Uwch Gynghrair Cymru wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i’r amserlen gemau newydd gael ei anfon i’r clybiau rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

Ond mae yna ragolygon ynglŷn â rhagor o eira ar y gorwel ac fe allai hynny gymhlethu cynlluniau’r gynghrair ymhellach.