Mae cwmni adeiladu Tarmac wedi cyhoeddi eu bod nhw’n torri 550 o swyddi, â rhai yn mynd yn Dolyhir ym Mhowys.

Mae’r cwmni yn beio amodau “caled” am orfod torri 217 o swyddi yn Tallington, Swydd Lincoln, dros 100 yn Hendale, Gwlad yr Haf.

Fe fydd y gweddill y swyddi, dros 200, yn cael eu torri yn Derby yn Swydd Nottingham ac ar y safle yn Dolyhir.

“Rydym ni wedi gorfod ystyried dyfodol rhannau o’n busnes, ac wedi cymryd y penderfyniad anodd i’w cau,” meddai prif weithredwr y cwmni, Blair Illingworth.

“Mae hyn yn effeithio ar bum safle ledled Prydain ac yn golygu bod tua 550 o swyddi yn y fantol.

“Dyw hyn ddim yn benderfyniad sydd wedi ei wneud yn hawdd ac rydym ni wedi dechrau cyfnod ymgynghori 90 diwrnod â unrhyw weithwyr sydd wedi eu heffeithio gan hyn.

“Rydym ni hefyd yn trafod â’n cwsmeriaid am sut y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw.”

(Llun: Gwefan y cwmni)