Mae S4C yn dweud bod bron i filiwn o bobl wedi bod yn gwylio’r sianel dros y pedair wythnos ddiwethaf, gyda 400,000 ychwanegol tu allan i Gymru.
Dywedodd y sianel bod y “newyddion da ynglŷn â ffigyrau gwylio S4C” yn dod ar ddiwedd blwyddyn sydd wedi gweld cynnydd yn nifer gwylwyr rhaglenni 2010, i’w gymharu â 2009.
“Nid yw’r cynnydd yn ffigyrau gwylio S4C wedi’u cyfyngu i Gymru yn unig gyda 149,000 o bobl yn gwylio’r Sianel Gymraeg tu allan i Gymru, meddai llefarydd ar ran y sianel.
“Mae’r ffigwr, i fyny 54% ar yr un cyfnod yn 2009, yn golygu bod 612,000 o bobl wahanol yng Ngwledydd Prydain yn gwylio S4C mewn unrhyw wythnos yn 2010.”
Ymysg y rhaglenni mwyaf poblogaidd gyda’r gynulleidfa yn ystod y flwyddyn oedd Pobol y Cwm ac Only Men Aloud.
“Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r opera sebon ddyddiol, Pobol y Cwm wedi derbyn ei ffigyrau gwylio gorau ers 2006,” meddai’r sianel.
“Mae’r un peth yn wir am Ffermio a’r gyfres adloniant Noson Lawen, sydd wedi denu eu ffigyrau gwylio gorau ers 2007.”
Cafodd yr arlwy ar-lein hefyd hwb gyda chynnydd yn ystod y deuddeg mis diwethaf.
Hyd yma eleni, mae gwefan S4C wedi derbyn 1.8 miliwn o ymweliadau, tra bod y gwasanaeth rhaglenni ar alw, Clic, i fyny 52% ar yr un cyfnod yn 2009.