Mae Gogledd Korea wedi dweud ei bod yn barod i lansio “rhyfel sanctaidd” yn erbyn y De wrth i’w cymdogion gynnal ymarferion milwrol yn agos i’r ffin.

Daw’r rhybudd gan bennaeth amddiffyn Gogledd Korea, Kim Young Chun, yn ystod cyfarfod yn y brifddinas Pyongyang, yn ôl Asiantaeth Newyddion Korea.

Dywedodd Kim Young Chun bod y Gogledd yn barod am ryfel a bod y De yn eu gwthio’n fwriadol yn y cyfeiriad hwnnw.

Mae’r Gogledd wedi eu digio gan benderfyniad y De i gynnal ymarferion milwrol yr wythnos yma.

Bydd y De yn cynnal yr ymarferion mis ar ôl i Ogledd Korea lansio cyrch bomio ar un o’r ynysoedd sydd ar y ffin rhwng y ddwy wlad, gan ladd pedwar person.

Dyma oedd yr ymosodiad milwrol cyntaf ar sifiliaid ers i Ryfel Korea ddod i ben yn 1953.

Roedd Gogledd Korea wedi dweud yn gynharach yn yr wythnos na fydden nhw’n ymateb i unrhyw ymgais i’w cythruddo.