Anafwyd dyn ar ôl iddo ei daflu ei hun o falconi yn senedd Romania heddiw.

Mae’n debyg ei fod yn protestio yn erbyn toriadau ariannol y llywodraeth.

Cafodd y cyfarfod ei atal a phleidlais ei gohirio.

Clywyd twrw mawr yn y siambr ar ôl i Adrian Sobaru, peiriannwr â sianel deledu gwladol, daro’r meinciau cefn yn fuan ar ôl i’r Prif Weinidog, Emil Boc, gyfarch Aelodau Seneddol.

Brysiodd Emil Boc draw i ble’r oedd Adrian Sobaru wedi disgyn. Dywedodd y Llefarydd Mircea Geoana bod y cyfarfod wedi ei hatal dros dro.

Mae Romania yn dal mewn dirwasgiad ac mae’r llywodraeth wedi penderfynu torri 25% oddi ar gyflogau gweithwyr yn y sector gyhoeddus.

Roedd Adrian Sobaru yn gwisgo crys t oedd yn dweud “Rydych chi wedi lladd dyfodol ein plant”.

Wrth i weithwyr meddygol ei gario o’r siambr ar stretsier, bloeddiodd “Rhyddid!” Dioddefodd anafiadau i’w wyneb a mân anafiadau eraill.

Dywedodd y Prif Weinidog bod y digwyddiad wedi “ei ddychryn”, a galwodd am heddwch “yn yr amseroedd caled yma”.