Mae bron i un ym mhob tri o bobol Prydain yn credu bod angel yn eu gwarchod nhw, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.

Holodd y Gymdeithas Feiblaidd 1,038 o bobol ar-lein. Roedd 31% yn credu mewn angylion, a 17% ddim yn siŵr.

Roedd 5% arall – neu un ym mhob 20 – yn credu eu bod nhw wedi gweld neu glywed angel, ac roedd 29% yn credu bod angel yn cadw llygad arnyn nhw drwy’r amser.

Roedd yr ymchwil yn dangos mai pobol Llundain oedd fwyaf tebygol o gredu mewn angylion. Roedd 40% o bobol y brifddinas yn credu o’i gymharu â 17% yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

Roedd 37% o bobol Llundain yn credu bod angel yn eu gwarchod nhw, ond dim dim ond 22% o bobol yr Alban yn credu hynny.

Datgelodd yr arolwg bod 79% yn credu y dylid perfformio drama’r geni mewn ysgolion.

“Mae yna lot o dystiolaeth sy’n profi presenoldeb yn y byd yma sydd y tu hwnt i’r dynol, “ meddai’r Canon Dr Ann Holt o’r Gymdeithas Feiblaidd.

“Mae’r ffaith bod traean y wlad yn credu mewn angylion yn dangos yr angen ysbrydol sydd â ni.

“Negesydd gan Dduw yw Angen ac mae’r Beibl yn cadarnhau hynny.”