Mae’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant wedi ei feirniadu ar ôl cynhyrchu ceiniog arbennig ar gyfer dyweddïad y Tywysog William a Kate Middleton sy’n edrych ddim byd tebyg iddyn nhw.
Mae wynebau’r Tywysog a’i ddarpar wraig ar ochr y geiniog £5. Mae wyneb y Tywysog William yn weddol gyfarwydd ond mae Kate Middleton yn ymddangos yn dewach ac yn hŷn.
Cafodd y geiniog ei gynllunio gan dîm dylunio’r Bathdy Brenhinol yn y Rhondda, ac mae wyneb y Frenhines ar yr ochor arall.
Dywedodd Ingrid Steward, golygydd Majesty Magazine, wrth Sky News nad oedd hi’n hoffi’r geiniog.
“Mae o’n geiniog o bwysigrwydd hanesyddol,” meddai. “Mae’n rhyfeddol eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad mor fawr.”
Mae’r Frenhines a’r Tywysog William wedi rhoi sêl bendith i’r cynllun.
Dywedodd llefarydd ar ran y Bathdy Brenhinol bod y cynllun yn mynd drwy “broses trwyadl” er mwyn sicrhau bod y Teulu Brenhinol yn hapus.
Fe fydd y Tywysog William a Kate Middleton yn priodi ym mis Ebrill yn Abaty Westminister.
Mae’r ceiniog £5 ar gael o wefan y Bathdy Brenhinol ac yn costio £9.99.