Mae cynghorau wedi rhybuddio bod y cinio Nadolig traddodiadol yn achosi llifogydd.
Y pryder yw bod braster, olew a saim sy’n cael eu tywallt i lawr y draen ac yna’n caledu gan atal dwr rhag llifo drwy garthffosydd.
Dywedodd un cyngor bod llifogydd o ganlyniad i fraster mewn carthffosydd yn achosi miloedd o bunnoedd werth o ddifrod yr adeg yma o’r flwyddyn.
“Fe allai pawb wneud eu rhan er mwyn cadw draeniau’n glir ac atal llifogydd y Nadolig yma drwy gael gwared o’u braster, olew a saim mewn modd cyfrifol,” meddai Stan Waddington o Gyngor Sir Gaerloyw.
“Does neb eisiau gweld carthffosiaeth amrwd yn llenwi eu gerddi, dreifiau neu, yn waeth byth, eu cartrefi.
“Yr unig fodd o gael gwared ar y tomenni o fraster sy’n cau pibelli carthffosiaeth ydi defnyddio jet dŵr pwysedd uchel.
“Ond fe fyddai’n hawdd osgoi hynny os yw pobol yn rhoi’r gorau i drin eu sinciau yn debyg i fin sbwriel.”
Hyd yn oed os yw pobol yn defnyddio dŵr poeth wrth olchi llestri, fe fydd y braster yn caledu wrth gyffwrdd â waliau oer y pibelli carthffosiaeth, medden nhw.
Dros amser fe fydd rhagor o wastraff yn mynd yn gaeth yn y braster gludiog ac yn atal dŵr rhag mynd drwy’r bibell.