Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl i yrrwr daro i mewn i lawnt blaen cartref y cyn arlywydd George W Bush yn Dallas.

Ni chafodd Bush nac ei wraig Laura eu hanafu a doedd yna ddim difrod i’w cartref, yn ôl Ed Donovan, llefarydd ar ran y gwasanaethau cudd.

Roedd y gyrrwr wedi bod yn ymweld â un o gymdogion George Bush cyn y gwrthdrawiad. Cafodd ei gwestiynu a’i ryddhau, a mae heddlu Dallas yn ymchwilio.

Mae’r teulu Bush yn byw mewn cymuned adwyog yng ngogledd y ddinas.

Dywedodd llefarydd ar ran George W Bush, David Sherzer, ei fod gartref ond nad oedd mewn perygl.