Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn symudi ei swyddfeydd yn Efrog Newydd o adeilad Chrysler er mwyn arbed arian.

Fe fydd yr yr wyth aelod staff yn y ddinas yn symud o’u swyddfeydd presennol yn adeilad Chrysler i’r Is-genhadaeth-Gyffredinol Brydeinig ar 845 Third Avenue.

Dywedodd y llywodraeth y bydd y penderfyniad yn arbed £62,000 i’r trethdalwr dros y chwe mis nesaf.

Symudodd staff Llywodraeth y Cynulliad i adeilad Chrysler yn 2002.

Gwaith y tîm yn Efrog newydd yw hyrwyddo Cymru yng Ngogledd America a denu buddsoddiadau i Gymru.

Mae penderfyniad i fudo yn rhan o adolygiad Llywodraeth y Cynulliad o’i holl waith tramor yn dilyn lansiad ei bolisi economaidd newydd, ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd.

Mae Adran yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd wedi’i hailstrwythuro, gan gynnwys cwtogi 280 o staff a newidiadau i’r portffolio eiddo.

‘Effeithiol’

“Mae hyn yn symudiad gwbl fanteisiol, un sy’n cryfhau ein gallu i ennill buddsoddiadau a busnes i Gymru ac arbed arian ar yr un pryd,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones.

“Bydd yn arwain at weithredu mwy effeithiol dramor, gan adael i’n staff weithio’n agosach gyda’r timoedd adran Masnach a Buddsoddi llywodraeth San Steffan, sydd hefyd â’u pencadlys yn yr Is-genhadaeth Brydeinig.

“Mae’n golygu defnydd mwy effeithiol o’n hadnoddau yn wyneb yr hinsawdd economaidd bresennol.”

Mae swyddfa Efrog Newydd yn cynorthwyo cwmnïau yng Ngogledd America gyda phrosiectau newydd ac ehangu, ac yn cefnogi cwmnïau o Gymru sydd am fasnachu yn y cyfandiroedd Americanaidd.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae’r swyddfa wedi gweithio gyda chwmnïau i gwblhau buddsoddiadau newydd, gan gynnwys helpu Amazon.com, Virgin Atlantic ac IBM i ehangu yng Nghymru, meddai’r Llywodraeth.