Mae yna bryder bod dyn wedi rhewi i farwolaeth mewn parc ym Mangor wrth i eira trwm ddisgyn ar draws y gogledd.

Daeth parafeddygon o hyd i’r dyn 48 oed, sydd heb ei enwi, mewn parc ger eglwys gadeiriol Bangor ar ôl i aelod o’r cyhoedd alw 999 cyn 9am ddoe.

Mae’r parc yn fan poblogaidd ymysg pobol digartref y ddinas.

Aethpwyd a’r dyn i Ysbyty Gwynedd ond roedd o wedi marw. Bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal heddiw ond mae’r heddlu yn ofni ei fod o wedi marw oherwydd yr oerfel.