Mae yna ymgyrch y tu ôl i’r llenni i atal Prif Weithredwr dros dro S4C, Arwel Ellis Owen, rhag cymryd y swydd yn llawn amser, yn ôl adroddiadau yn y wasg.
Mae’n debyg bod e-bost wedi ei yrru at sawl un yn y cyfryngau, gan gynnwys papur newydd y Western Mail, yn awgrymu bod Arwel Ellis Owen wedi gadael y BBC dan ychydig o gwmwl.
Awgrym yr e-bost, meddai’r papur, yw nad Arwel Ellis Owen yw’r person gorau i arwain S4C ar adeg pan mae’r berthynas â’r BBC yn hanfodol er mwyn parhad y sianel.
Cafodd Arwel Ellis Owen ei benodi i sywdd Prif Weithredwr dros dro yn dilyn ymadawiad Iona Jones ym mis Gorffennaf.
Dim ond am dri mis y penodwyd ef yn y lle cyntaf ond fe fydd yn aros yn y swydd tan bod S4C yn cyflogi prif weithredwr newydd, yn dilyn penodi Cadeirydd newydd Awdurdod y sianel.
Mae’r e-bost yn cynnwys dyfyniad o lyfr Don’t Mention the War: Northern Ireland, Propaganda and the Media gan David Miller.
Yn ôl y llyfr roedd Arwel Ellis Owen wedi beirniadu’r BBC am eu amharodrwydd i ddarlledu rhaglen ymchwiliadol am saethu tri aelod o’r IRA gan filwyr Prydeinig yn Gibraltar.
Roedd cyfarwyddwyr y BBC yn anhapus â’r cyfweliad ac fe wnaeth hynny chwarae rhan yn ei ymadawiad o’r gorfforaeth, meddai’r llyfr.