Dim ond un gêm y bydd wythwr y Gleision, Xavier Rush, yn ei cholli ar ôl cael carden goch yn erbyn Northampton dros y Sul.
Fe fydd yn colli’r gêm ddarbi yn erbyn y Dreigiau ddydd Llun nesaf ond roedd rhai wedi disgwyl y byddai’n cael cosb fwy llym ar ôl ei gael yn euog o dacl beryglus o uchel ar
Courtney Lawes.
Fe ddywedodd awdurdod y gystadleuaeth, ERC, nad oedd Xavier Rush wedi bwriadu anafu Courtney Lawes gyda’i dacl. Yn ôl y lluniau teledu, roedd Lawes eisoes yn dechrau cwympo pan aeth Rush amdano.
Roedd y panel disgyblu hefyd wedi derbyn bod gan Rush record ddisgyblaeth dda, a’i fod yn edifar am y digwyddiad.
Felly fe fydd yr wythwr dylanwadol ar gael i chwarae yn erbyn y Gweilch ar 31 Rhagfyr.
Croesawu
Mae cyfarwyddwr rygbi’r Gleision, Dai Young yn dweud ei fod yn teimlo y gall ymdopi heb Xavier Rush yn y tymor byr.
“Yn amlwg r’yn ni eisiau mynd i mewn i gemau’r Nadolig gyda’n chwaraewyr gorau. Ond mae gyda ni opsiynau eraill gyda Tom Brown, Andries Pretorius a Maama Molitika yn gallu chwarae yn safle’r wythwr,” meddai Dai Young.
“Dyw Xavier Rush ddim yn chwaraewr budr ac roedden ni’n credu bod y garden goch yn eithaf llym. Ond mae’n newyddion da y bydd ar gael i chwarae yn erbyn y Gweilch ar 31 Rhagfyr.”
Aros i glywed am Rees
Mae’r Gleision yn parhau i aros i glywed am ddyddiad gwrandawiad disgyblu’r mewnwr Richie Rees ar ôl iddo gael ei gyhuddo o gyffwrdd a llygad bachwr Northampton, Dylan Hartley.
Pe bai’n cael ei ganfod yn euog o’r drosedd fe allai mewnwr Cymru wynebu gwaharddiad o tua 12 wythnos a fyddai’n ei atal rhag chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.