Mae Barack Obama wedi croesawu pleidlais hanesyddol yn Senedd yr Unol Daleithiau i gefnogi cytundeb newydd ar arfau niwclear gyda Rwsia.

Roedd yr Arlywydd wedi ymgyrchu’n galed i ennill y bleidlais cyn i ragor o’i wrthwynebwyr Gweriniaethol ddod i mewn i’r Senedd ym mis Ionawr.

Fe fu’n ffonio Gweriniaethwyr yn ystod y dyddiau diwetha’ ac fe lwyddodd i berswadio 13 ohonyn nhw i bleidleisio gyda’r Democratiaid a sicrhau’r mwyafrif angenrheidiol o ddwy ran o dair.

Mae’n golygu bod y flwyddyn wleidyddol anodd yn gorffen ar nodyn uchel i’r Arlywydd ac, yn ôl rhai, yn arwydd o berthynas newydd rhyngddo a’i wrthwynebwyr.

Rwsia’n croesawu

Mae Gweinidog Tramor Rwsia, Sergey Lavrov, wedi croesawu’r bleidlais ond yn dweud y bydd rhaid i’r Llywodraeth ym Moscow astudio’r manylion cyn cefnogi’r cytundeb.

Roedd y cytundeb, START, wedi cael ei gytuno gan arlywyddion y ddwy wlad ynghynt eleni.

Mae’n golygu gostwng cyfanswm arfau niwclear y ddwy wlad o 2,200 i 1,550 ac ail-ddechrau archwilio’r safleoedd lle maen nhw’n cael eu cadw.