Mae miliynau o yrwyr yn wynebu amodau rhewllyd ar y ffyrdd ar un o ddiwrnodau pwysica’r flwyddyn.
Fe rybuddiodd Paul Watters o gwmni moduro’r AA eu bod nhw’n disgwyl diwrnod “trafferthus” ar y ffyrdd wrth i bobol geisio mynd adre’ ac at berthnasau neu wneud eu siopa munud ola’.
Roedd yr AA wedi ymateb i 21,000 o alwadau gan deithwyr ddoe, ac mae’r cwmni moduro’n dweud eu bod yn disgwyl i bethau fod yr un mor anodd heddiw.
Mae rhagolygon tywydd yn awgrymu y dylai’r rhan fwya’ o Brydain fod yn sych yn ystod y dyddiau nesa’, ond ei bod am aros yn oer gyda’r rhewi’n parhau.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod yna risg y gallai’r ffyrdd fod yn rhewllyd ym mhob rhan o Gymru.
Hedfan
Mae disgwyl i Faes Awyr Heathrow gael diwrnod cymharol lawn o hedfan heddiw wedi diwrnodau o anrhefn sydd wedi amharu ar gynlluniau teithio degau o filoedd o deithwyr.
Mae’r maes awyr yn parhau i rybuddio teithwyr i beidio disgwyl gwasanaethau cwbl normal eto.
Mae Maer Llundain, Boris Johnson, wedi dweud bod gan gwmni’r meysydd awyr, BAA, “wersi difrifol” i’w dysgu o anrhefn y dyddiau diwethaf.
Mae cwmni trenau Eurostar wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cynnal 90% o’u gwasanaethau ar hyn o bryd.
Llun: Yr M25