Mae cefnogwyr Llafur yn cael eu hannog i gefnogi’r newid yn y system bleidleisio yn refferendwm y flwyddyn nesa’.
Mae’r ymgyrch Llafur tros Ie yn dweud y byddai’r blaid wedi gwneud yn well ym mhob etholiad ers 1997 o dan y drefn newydd – AV.
Mae honno’n golygu y byddai etholwyr yn rhestru ymgeiswyr mewn trefn 1,2,3 gyda phleidleisiau’n cael eu trosglwyddo wrth i ymgeiswyr gwympo o’r ras.
Yn ôl dadansoddiad gan arbenigwr o’r Unol Daleithiau, fe fyddai AV yn ffafrio Llafur ac fe fyddai’r Llafurwr Ken Livingstone wedi curo’r Ceidwadwr Boris Johnson yn etholiad Maer Llundain.
‘Cyfle gorau’
“AV yw cyfle gorau Llafur i ddisodli’r Llywodraeth yma sydd dan arweiniad y Ceidwadwyr ac i ddenu pleidleiswyr anhapus y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n edifar bod eu plaid wedi dewis cynghreirio gyda David Cameron yn hytrach na Llafur,” meddai Matt Qvortrup o Brifysgol Cranfield.
Mae’r Cymry, Neil a Glenys Kinnock, ymhlith arweinwyr yr ymgyrch Lafur tros Ie.
Llun: Glenys Kinnock, un o arweinwyr yr ymgyrch Lafur tros Ie