Mae’r straeon diweddara’ o dapiau cudd y Daily Telegraph yn awgrymu bod rhai o weinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol yn feirniadol iawn o’u partneriaid Ceidwadol.
Doedd dau ddim yn ymddiried yn y Prif Weinidog, David Cameron, roedd y Canghellor George Osborne yn codi gwrychyn un arall ac, yn ôl trydydd, doedd gan y Ceidwadwyr ddim syniad sut yr oedd pobol gyffredin yn byw.
Yn y cyfamser, mae’r Gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, y Tori Oliver Letwin, wedi ceisio amddiffyn Llywodraeth y Glymblaid.
Mewn erthygl ym mhapur newydd y Guardian, mae’n dweud bod y ddwy ochr wedi creu cysylltiadau cry’ a’u bod yn ymddiried yn ei gilydd.
Mae tapiau’r Telegraph yn awgrymu fel arall, ar ôl i newyddiadurwyr dwyllo gweinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol i feddwl mai etholwyr oedden nhw.
Beth ddywedson nhw
Dyma a ddywedodd y pedwar diweddara’:
• Dyw’r Gweinidog Trafnidiaeth, Norman Baker, ddim yn hoffi’r Canghellor George Osborne ac mae rhai o’r Ceidwadwyr yn annerbyniol.
• Dyw’r Gweinidog Gofal, Paul Burstow, na’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Andrew Stunell, ddim yn ymddiried yn y Prif Weinidog, David Cameron.
• Pryder mwya’ Dirprwy Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, David Heath, oedd methiant y Ceidwadwyr i ddeall amgylchiadau pobol gyffredin. Doedd yntau ddim yn hoff o George Osborne.
Llun: Oliver Letwin (cooperniall CCA 2.0)