Mae criw o ddisgyblion ac athrawon ysgol ac Aelod Seneddol ar eu ffordd i Lundain i geisio atal bachgen 17 oed rhag cael ei anfon o Gymru yn ôl i Bacistan.
Fe fydd Ahmer ‘Emmie’ Rana o Nantycaws ger Caerfyrddin yn troi’n 18 oed ddydd Nadolig ac fe fydd gan yr awdurdodau yr hawl wedyn i’w anfon o’r wlad.
Mae ei gyd-ddisgyblion yn ysgol y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin wedi casglu mwy na 4,000 o lofnodion ar ddeiseb yn ei gefnogi ac mae’r AS lleol, Jonathan Edwards, yn mynd gyda nhw i gyflwyno’r enwau yn Whitehall heddiw.
Roedd teulu Ahmer Rana wedi talu am smyglo’r bachgen o Bacistan pan oedd yn 14 oed – er mwyn osgoi gwrthdaro teuluol. Erbyn hyn, mae ei dad a’i fam wedi diflannu.
‘Mewn peryg’
Mae ei gefnogwyr yn dweud y bydd mewn peryg os caiff ei anfon yn ôl o Gymru, lle’r oedd wedi ei osod gyda theulu maeth.
Ddydd Sadwrn diwetha’, roedd rhai o ddisgyblion yr ysgol ar y strydoedd yng Nghaerfyrddin yn casglu enwau ac mae’r Dirprwy Brifathro, Allan Carter, hefyd yn cymryd rhan flaenllaw yn yr ymgyrch.
Yn ôl yr Aelod Seneddol, Jonathan Edwards, mae’r adran fewnfudo yn cadw at lythyren y gyfraith ond mae’n gobeithio y bydd y gweinidog yn ymyrryd oherwydd yr amgylchiadau arbennig.
Llun: Papur lleol y Carmarthen Journal yn tynnu sylw at ymgyrch Ahmer Rana