Mae yna adroddiadau bod ymosodwr Caerdydd, Michael Chopra, ar fin gadael i ymuno â Blackburn Rovers.
Dyw Chopra ddim yn cael ei ystyried yn chwaraewr mor allweddol i glwb y brifddinas ag yr oedd yn y gorffennol.
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yn ffafrio’r ymosodwyr Jay Bothroyd a Craig Bellamy ar hyn o bryd.
Mae yna sïon bod Blackburn am gynnig £3m pan fydd y ffenest drosglwyddo yn agor ym mis Ionawr.
Cryfhau cysylltiadau
Mae Chopra yn ystyried chwarae pêl droed rhyngwladol i’r India ac fe fyddai’n gam tuag at godi proffil Blackburn yno – gwlad perchnogion newydd y clwb.
Mae’r brodyr Rao yn awyddus i greu cysylltiadau cryf rhwng eu clwb a’r wlad.
Maen nhw eisoes wedi ceisio denu capten India, Baichung Bhutia, i Ewood Park. Ond fe wrthododd Bhutia, sy’n 34 oed, gan ddweud ei fod yn rhy hen i ddechrau chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Roedd Chopra wedi hedfan i Dubai fis diwethaf er mwyn cyfarfod gyda hyfforddwr yr India, Bob Houghton, a gwylio’r tîm rhyngwladol yn colli 9-1 yn erbyn Kuwait mewn gêm gyfeillgar.