Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud bod ganddyn nhw ddigon o halen i drin eu prif ffyrdd am chwe diwrnod o dywydd rhewllyd, ond dim ond am ddau ddiwrnod o eira.

Mae lefelau halen a graean y cyngor wedi mynd yn isel dros y dyddiau diwethaf oherwydd yr eira ledled y sir.

Ond mae Cyngor Gwynedd yn disgwyl cyflenwad o halen i mewn heddiw ac yn fuan ar ôl y Nadolig.

“Mae’r Cyngor yn disgwyl derbyn cyflenwad o oddeutu 1,000 tunnell o halen heddiw, ac rydan ni hefyd yn disgwyl derbyn cyflenwad arall o 1,000 tunnell yn syth ar ôl y Nadolig,” meddai Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd, Gwyn Morris Jones.

“Rydan ni’n hynod ddiolchgar i’n staff sydd wedi bod yn gweithio trwy’r nos yn ystod y tywydd garw er mwyn sicrhau fod prif ffyrdd y sir yn parhau ar agor ar gyfer teithwyr.

“Byddwn yn annog modurwyr i barhau i gymryd gofal ar y ffyrdd yn ystod y tywydd anodd, gyda lefelau tymheredd yn parhau yn isel.”

Stoc llawn ar y dechrau

Ar ddechrau’r cyfnod o dywydd gaeafol, roedd gan y Cyngor stoc llawn o tua 13,000 tunnell o halen, a derbyniwyd 1,400 tunnell bellach yn ystod yr wythnosau diwethaf hefyd.

Mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am 1,800 o ffyrdd trwy’r sir – tua 39% o’r rheiny sy’n cael eu trin ymlaen llaw.