Mae cymuned fach yng nghefn gwlad Ceredigion wedi dod at ei gilydd i wneud yn siŵr bod eu post yn cyrraedd cyn y Nadolig, er waetha trafferthion y Post Brenhinol oherwydd yr eira.
Mae’r trigolion wedi agor neuadd y pentref yng Nghilcennin, ger Aberaeron, er mwyn i’r postmon ddosbarthu ei bost oddi yno, gan ei bod hi’n amhosib iddo yrru ei fan o gwmpas yr ardal.
Roedd y pentwr post ar gyfer pentref Cilcennin wedi cyrraedd 4,500 o eitemau dros y Sul, ond doedd dim posib eu dosbarthu gan fod y trigolion wedi eu cau yn y pentref gan yr eira, a fan y postmon wedi ei chau allan.
“Ddydd Iau y daeth y postmon aton ni ddiwetha,” meddai Carwen Williams, sy’n byw yng Nghilcennin. “Fe drïodd Jason, y postmon, ddosbarthu rhai o’r llythyron ddydd Llun ar droed, ond oedd gormod i yna rhwng pawb.”
Tywydd yn ‘drychineb’
Yn ôl Jamie Lambert, rheolwr swyddfa ddosbarthu’r Post Brenhinol yn Llanbed, mae’r tywydd wedi bod yn “drychineb” i’r gwasanaeth post y Nadolig hwn, ac mae’r adeg o’r flwyddyn wedi ychwanegu at y broblem gan fod llawer iawn yn fwy o bobol yn dibynnu ar y gwasanaeth post.
“I ni roi pethe yn eu cyd-destun – fel arfer, mae pentre Cilcennin yn derbyn tua mil o eiteme o bost bob dydd. Ddoe, ro’dd gyda ni 4,500 o eiteme i’w dosbarthu o neuadd y pentre.
“R’yn ni wedi bod yn lwcus iawn bos y staff a’r bobl leol wedi bod mor barod i’n helpu ni yn ystod yr wythnos ddiwetha,” meddai Jamie Lambert.
Datrys y broblem
Ddydd Llun daeth y postmyn lleol a phobol Cilcennin at ei gilydd er mwyn ceisio datrys y broblem, ac fe benderfynwyd mai agor neuadd y pentref a gwahodd trigolion i lawr yno fyddai’r modd gorau o ddosbarthu’r post.
“Roedd un o’n staff ni’n fodlon tywys Jason, y postmon, i lawr i Gilcennin yn ei 4×4 ei hun, chware teg, ac roedd rhai o’r trigolion wedi bod wrthi am ddwy awr cyn hynny’n clirio eira o’r ffordd er mwyn ein helpu ni gyrraedd y neuadd,” meddai Jamie Lambert.
“Dwi’n ffaelu pwysleisio digon pa mor lwcus ’yn ni o gael pawb mor barod i’n helpu ni gyda’r gwaith.”
Yn ôl Jamie Lambert, y gobaith yw y gall y Post Brenhinol elwa mwy ar weithredu fel hyn yn y dyfodol, gan ddefnyddio canolfannau fel neuaddau ac ysgolion er mwyn sicrhau bod y post yn cyrraedd y bobol pan fod y tywydd yn wael.