Roedd y plant a fu farw yn Nhrawsfynydd dros y penwythnos yn llawn “llawenydd diniwed”, meddai tad un ohonyn nhw heddiw.

Y gred yw bod Phillip Stevens, pump oed, a’i frawd Izaak, dau, wedi eu lladd gan eu mam, Melanie, 36, cyn iddi hi ei chrogi ei hun.

Daethpwyd o hyd i’w cyrff yn eu cartref yn Nhrawsfynydd, Gwynedd, tua 8pm ar nos Sul ar ôl i berthnasau gysylltu â’r heddlu,

Heddiw dywedodd Nicholas Smith, tad Izaak a chyn-bartner Melanie Stevens, eu bod nhw’n “ddau hogyn hyfryd, yn caru trenau, peli pêl-droed, ceir, pyllau dŵr a chael eu cosi”.

“Roedd Izaak a Pip yn amsugno’r holl gariad yr oedden nhw’n ei gael gan bawb oedd yn eu nabod nhw ac yn ei roi yn ôl ganwaith.

“Fyddan nhw byth yn colli eu llawenydd diniwed at ryfeddodau’r byd o’u cwmpas nhw. Fe fyddan nhw’n ddau blentyn bach hyfryd am byth.”

Dangosodd archwiliadau post-mortem fod y ddau wedi eu mygu. Dyw’r heddlu ddim yn ystyried bod marwolaeth y fam yn un amheus.

Cafodd cwest i’w marwolaethau ei agor a’i ohirio gan y crwner Dewi Pritchard Jones.

Roedd Melanie Stevens, mam i bump ac wedi ysgaru, wedi byw yn y tŷ yn  Stryd y Capel ers tua dwy flynedd ar ôl symud yno o Flaenau Ffestiniog.

Dywedodd trigolion y pentref bod y teulu i’w weld yn un “hapus a chyfeillgar”.