Mae’r Dreigiau’n apelio ar eu cefnogwyr i roi help llaw i’r rhanbarth glirio eira oddi ar gae Rodney Parade.

Y nod yw sicrhau bod y gêm ddarbi yn erbyn y Gleision yn mynd rhagddo ddydd Llun.

Dywedodd rheolwr y stadiwm, Mark Jones bod yr eira wedi disgyn ar ben gorchudd o rew ac y dylai hynny atal y cae rhag rhewi.

“Serch hynny mae yna bryderon y gall y tymheredd ostwng hyd at tua -7 nos Wener a nos Sadwrn,” meddai Mark Jones.

“Mae yna bryder y bydd clirio’r eira yn rhy gynnar yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd y cae yn rhewi.

“Yn ddelfrydol fe allen ni adael yr eira yno tan ddydd Sul a’i glirio pan mae’r tymheredd yn codi – ond mae’n mynd i fod yn dasg enfawr.

“Rwy’n amcangyfrif y bydd angen symud tua 500 tunnell ac felly fe fydd angen cannoedd o wirfoddolwyr arnom ni.

“Rwy’n gwybod ei bod hi’n lot i ofyn i’r cefnogwyr sydd eisoes wedi gwneud gymaint drosom ni – ond r’yn ni am gynnal y gêm.”

Fe ddylai unrhyw un sy’n gallu helpu’r Dreigiau i glirio’r eira naill ai cysylltu gyda nhw trwy eu tudalen Facebook, e-bostio charlotte.moriarty@rodneyparadeltd.com neu ffonio’r clwb ar 01633 674953.