Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yn gobeithio ail danio ymgyrch ei glwb am le yn yr uwch gynghrair yn erbyn Coventry ar Ŵyl San Steffan.
Mae’r Adar Glas yn mynd drwy gyfnod caregog iawn gyda dim ond un fuddugoliaeth mewn saith gêm.
Mae Caerdydd wedi disgyn i’r trydydd safle yn y Bencampwriaeth, pedwar pwynt ar ei hôl hi i QPR, sydd ar y brig.
“Rwy’n deall rhwystredigaeth y cefnogwyr, yn enwedig pan maen nhw wedi teithio’n bell i lefydd fel Middlesborough a chael eu siomi,” meddai Dave Jones.
“Y gobaith ydi mynd yn ôl i’r arfer o ennill gemau – dyna fydd y nod yn erbyn Coventry.
“R’yn ni’n gwybod nad ydi’r canlyniadau wedi bod yn dda yn ddiweddar, ond wrth edrych ar y darlun llawn, r’yn ni wedi cyrraedd y nod oedden ni wedi ei osod cyn dechrau’r tymor.
“R’yn ni eisiau mynd â phethau i’r lefel nesaf. Ond mae hynny’n rhywbeth mae’n rhaid i ni ei wneud â’n gilydd – yn chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr.”