Mae Llanelli wedi galw am wirfoddolwyr i glirio eira oddi ar gae Parc Stebonheath yn y gobaith y bydd eu gêm yn erbyn Caerfyrddin ar Ŵyl San Steffan yn mynd rhagddo.
Mae’r clwb yn gobeithio y bydd o leiaf 25 o bobl yn helpu â’r clirio am 9.00am bore dydd Sul.
“Mae’r cae o dan yr eira yn feddal ac mae’n bosib chwarae arno. Mae’r eira yn gwarchod y cae rhag y rhew,” meddai Llanelli mewn datganiad.
Maen nhw wedi addo y bydd gwirfoddolwyr yn cael tocyn am ddim i’r gêm yn erbyn Caerfyrddin.
Fe fydd Llanelli yn awyddus iawn i gynnal y gêm am nad ydyn nhw wedi gallu chwarae unwaith ers 9 Tachwedd.
Mae gan Lanelli ddeg gêm i’w chwarae cyn i’r gynghrair gael ei rannu’n ddau.
Mae ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru, John Deakin yn bwriadu cynnig ymestyn hanner cyntaf y tymor o 15 Ionawr tan 5 Chwefror er mwyn lleihau’r pwysau ar y clybiau i gwblhau eu gemau.