Mae awdur o Ruthun yn ymchwilio i wybodaeth ynglŷn â math o gi oedd yn frodorol i Ogledd Cymru a ddiflannodd tua chan mlynedd yn ôl.

Yn ôl Idris Evans, roedd brîd y Ci Coch gyda’r mwyaf a welwyd erioed yn y Deyrnas Unedig cyn iddo ddiflannu ar ôl i gyfnod y porthmyn ddod i ben yn y 1850au.

“Roedd y Ci Coch yn fwy nag unrhyw gi arall ym Mhrydain,” meddai Idris Evans, sydd wedi dechrau ymchwil ar gyfer llyfr yn olrhain hanes y ci unigryw.

Dirgelwch y Ci Coch

Dyw Idris Evans erioed wedi gweld darlun o’r Ci Coch, ond mae e wedi darganfod nifer o ddisgrifiadau a chyfeiriadau at y ci mewn dogfennau yn ymwneud â hanes y porthmyn.

“Roedd e’n gi mawr coch, ac roedd e’n edrych yn hynod o debyg i lwynog – roedd ganddo ben gwyn a chynffon coch – ond roedd e dipyn yn fwy na llwynog, gydag ysgwyddau llydan ac esgyrn mawr.”

Daeth Idris Evans ar draws hanes y Ci Coch wrth ysgrifennu ei lyfr hanesyddol cyntaf, ‘A Hard Road to London’, sy’n olrhain hanes y porthmyn a fu’n gyrru miloedd o wartheg o Gymru i Loegr ar droed cyn chwyldro diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae rhai o’r hanesion yn sôn am ddeg ci coch mawr a fu’n helpu cant o borthmyn i yrru bron i fil o wartheg i Lundain. Ac yn ôl Idris Evans, roedd gan y cŵn yma synnwyr daearyddol da iawn.

“Cyn gynted ag oedden nhw’n cyrraedd Llundain, fe fyddai’r cŵn yn cychwyn am adref ar eu pennau eu hunain.

“Fe fyddai’r porthmyn wedi gwneud trefniadau o flaen llaw bod y cŵn yn cael bach o fwyd a lle i aros mewn tafarndai ar y ffordd adref.”

Rhy debyg i lwynog

Cred Idris Evans yw bod diflaniad y ci coch wedi cyfnod y porthmyn yn rhannol oherwydd eu tebygrwydd i lwynogod.

“Roedd y cŵn yma’r un lliw, ac yn debyg iawn i siâp llwynogod, ac fe fydden nhw’n aml yn cael eu saethu ar ôl i helwyr eu camgymryd nhw am lwynogod.”

Mae rhai bridwyr cŵn yn dal i sôn am linach deuluol y Ci Coch hyd heddiw, yn ôl Idris Evans, ond mae geneteg y ci wedi altro dros y blynyddoedd oherwydd bridio dethol.

“Mae’n stori ddifyr,” meddai Idris Evans, ac un y mae’n gobeithio’i chroniclo mewn llyfr ar hanes y brîd.

Mae e hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y Ci Coch i gysylltu ag ef ar 01824 705 268.

(Llun: Y ci coch Cuon alpinus o Asia)