Mae’r Ceidwadwyr wedi mynd ar y blaen i Blaid Cymru yn y pôl piniwn diweddaraf i ofyn sut y bydd pobol yn pleidleisio yn Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Yn ôl arolwg ITV/You Gov mae cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ar ei isaf eto – dim ond 6% o’r bleidlais sydd gyda nhw, cwymp o 9% fis diwethaf a 20% ym mis Mai.

Fe fydd 23% yn pleidleisio o blaid y Ceidwadwyr o’i gymharu â 21% a fydd yn pleidleisio dros Blaid Cymru.

Roedd gan y ddwy blaid yr un faint o gefnogaeth, 21%, fis diwethaf, ac roedd Plaid Cymru ar y blaen 21% i 19% yn ystod y mis blaenorol.

Yn ôl yr arolwg mae Llafur ymhell ar y blaen, gyda 44% o’r gefnogaeth, yr un faint a’r ddau fis cynt.

Ie, na, pwy a ŵyr…

Roedd y pôl piniwn hefyd yn holi pobol a oedden nhw o blaid rhagor o bwerau i’r Cynulliad yn y refferendwm ar 3 Mawrth.

Roedd cwymp yn nifer y rheini atebodd Ie ac Na o’i gymharu â’r mis diwethaf – 46% a 25% yn hytrach nag 48% a 30% – ond roedd cynnydd yn nifer y rheini oedd heb benderfynu, ar 29% o 22%.