Mae’r Blaid Lafur wedi gwahodd pobol ifanc i ymuno â’r blaid am un geiniog heddiw, yn y gobaith o elwa ar amhoblogrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae’r cynnig ar gael i unrhyw un dan 27 oed tan etholiad y Cynulliad ar 5 Mai.
Dywedodd Ed Miliband y byddai’n brwydro o blaid blaenoriaethau pobol ifanc. “Ymunwch â ni ac fe fyddwn ni’n eich amddiffyn chi,” meddai.
Cyhuddodd Ysgrifennydd Addysg yr wrthblaid, Andy Burnham, y Llywodraeth o benderfynu ymosod ar bobol ifanc yn hytrach na bancwyr cyfoethog wrth wneud eu toriadau.
“Mae’r Llywodraeth yma wedi lansio ymosodiad digynsail ar bobol ifanc sy’n bygwth chwalu gobeithion y genhedlaeth nesaf,” meddai.
“Dyw’r Llywodraeth ddim yn deall sut beth yw bywyd i bobol ifanc sydd yn brwydro i wneud llwyddiant o’u bywydau.”
Dywedodd Andy Burnham ei fod yn derbyn fod angen “penderfyniadau anodd” er mwyn torri’r diffyg ariannol ond y byddai’r Blaid Lafur yn canolbwyntio ar “godi trethi, torri gwario a hybu’r economi”.
“Mae’r Ceidwadwyr eisiau torri’r diffyg ariannol yn rhy gyflym. Mae’n amlwg eu bod nhw wedi penderfynu mai pobol ifanc fydd yn dioddef yn sgil eu toriadau ariannol.
“Dyw hi ddim yn gwneud unrhyw synnwyr ariannol i wneud i blant dalu rhagor na bancwyr. Mae pob person ifanc sydd ddim mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant yn costio £50,000 i’r economi.
Mae pawb yn talu’r pris pan nad oes gan bobol ifanc obaith am ddyfodol gwell.”