Mae senedd Sbaen wedi cymeradwyo cyllideb llym ar gyfer 2011 o fwyafrif bychan iawn, gan ddiogelu swydd y Prif Weinidog Jose Luis Rodriguez Zapatero.
Roedd cymeradwyo’r gyllideb yn hanfodol er mwyn argyhoeddi’r farchnad y bydd y wlad yn gallu osgoi gorfod benthyg arian gan weddill Ewrop, fel y gwnaeth Gwlad Groeg.
Pleidleisiodd y Tŷ Isaf 177-171 o blaid y gyllideb ddoe, a fydd yn arwain at doriadau 8% i’r Llywodraeth.
Roedd angen cefnogaeth pleidiau llai, rhanbarthol, ar y Prif Weinidog er mwyn ennill y bleidlais. Mae o’n arwain llywodraeth leiafrifol sy’n gorfod dod i gytundebau â phleidiau eraill er mwyn cymeradwyo deddfau newydd.
Mae’r wlad yn brwydro i oroesi ar ôl dwy flynedd o ddirwasgiad llym. Mae di-weithdra wedi cyrraedd 20%, ac yn llawer uwch ymysg oedolion ifanc.
Dyw Sbaen heb fethu â phasio cyllideb er i’r wlad ddychwelyd at ddemocratiaeth yn dilyn marwolaeth yr unben Francisco Franco yn 1975.
Pe na bai’r gyllideb wedi ei chymeradwyo fe fyddai Jose Luis Rodriguez Zapatero wedi ei orfodi i alw etholiad.
Mae iechyd economaidd Sbaen yn hanfodol i Ewrop. Mae arbenigwyr economaidd yn pryderu y byddai talu i achub y wlad fel sydd wedi digwydd yng Ngwlad Groeg yn rhy gostus.