Mae deg o bobol wedi bod o flaen eu gwell heddiw wedi eu cyhuddo o drefnu parti rhyw ar long bleser oedd ar un adeg yn berchen i sylfaenydd gwlad Twrci.

Mae gŵr busnes o Kazakh, Tefik Arif, a naw arall yn ninas Antalya yn wynebu cyhuddiadau o smyglo pobol, gan annog puteindra a sefydlu cylch troseddol.

Danfonwyd naw menyw o Rwsia ac un o’r Wcráin, gan gynnwys dau blentyn, yn ôl i’w glwedydd brodorol ym mis Medi eleni, ar ôl i awdurdodau darfu ar y cylch puteindra ar long yr MV Savarona.

Mae disgwyl i’r llong, a oedd yn cael ei defnyddio ar un adeg gan Mustfa Kemal Ataturk, sylfaenydd Twrci fodern, gael ei throi’n amgueddfa yn y pen draw.

Yn ôl y cyhuddiadau, roedd Tefik Arif wedi talu am y parti ar y llong: “Fe dalodd holl ffioedd y menywod, yr asiantaethau, a’r dynion canol, ac am drafnidiaeth yr holl dramorwyr.”

Mae’r gŵr busnes, sydd â chysylltiadau honedig â’r Unol Dalaethau, Prydain, a Thwrci, yn gwadu’r holl gyhuddiadau.

“Dydw i’n debryn dim o’r cyhuddiadau,” meddai wrth y llys, “mae nhw’n gwbwl ddychmygol.”