Mae cynghorydd lleol yn Nhrawsfynydd wedi siarad am ei sioc o glywed y newyddion am farwolaeth mam a’i phlant yn y pentref.

Yn ôl y Cynghorydd Thomas Griffith Ellis, mae’n parhau’n ddirgelwch sut y bu farw mam a’i meibion 5 a 2 oed yn eu cartef yn Stryd y Capel, Traawsfynydd.

“Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw broblemau o fewn y teulu,” meddai’r cynghorydd wrth Golwg360.

“Roeddwn i’n gyfarwydd efo’r ddynes, o’n do’n i ddim yn ei nabod,” meddai wedyn. “O’n i’n arfer ei gweld hi o gwmpas y pentref ac yn y siop leol efo’r plant. Mi fydda’ hi bob amser yn fy nghyfarch i, ond byth yn stopio i sgwrsio.

“O’n i’n arfer ei gweld hi’n aml yn y pentref, ond do’n i ddim wedi ei gweld hi ers tro yn ddiweddar.

“Dw i ddim yn siwr be’ sydd wedi digwydd, a dydi’r heddlu ddim wedi dweud dim byd am be’ sydd wedi digwydd.”

Y gred ydi bod y wraig a’i phlant wedi dod i fyw i Drawsfynydd rhyw flwyddyn a hanner yn ôl, ar ôl symud yno o Flaenau Ffestiniog..