Dyw bron i un ym mhob chwech o bobol Cymru ddim yn gallu fforddio dillad i’w cadw yn gynnes yn y gaeaf, yn ôl elusen.

Yn ôl arolwg gan elusen Elizabeth Finn Care, sy’n rhoi cymorth i bobol sy’n wynebu cynni ariannol, mae 15% o bobol Cymru wedi dioddef yn y gaeaf am nad oedd gyda nhw ddillad addas.

Roedd 8% wedi gorfod aros y tu mewn i’r tŷ am nad oedd gyda nhw ddillad addas i fentro allan, a 16% wedi gorfod trwsio hen gotiau gaeafol.

“Pan mae’r tymheredd yn disgyn mae yna gynnydd yn nifer y bobol sy’n gofyn am gymorth ariannol i brynu dillad a chadw’n gynnes,” meddai Bryan Clover o’r elusen.

“Mae 72% o’r rheini ydyn ni’n eu helpu wedi gorfod goddef heb ddillad newydd cyn dod atom ni ac felly mae ein cymorth ni’n hanfodol er mwyn eu hatal nhw rhag dioddef o ganlyniad i’r oerfel.”

Mae disgwyl mwy o dywydd gaeafol yng Nghymru dros y dyddiau nesaf, ac mae proffwydi’r tywydd
yn rhybuddio y gallai barhau tan y flwyddyn newydd.