Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi “colli hyder” ffermwyr ar ôl tynnu honiad a wnaethpwyd mewn pamffled ynglŷn â difa moch daear yn ôl.
Dyna honiad y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod yna wallau yn y pamffled gafodd ei anfon at 26,000 o gartrefi yn ardal y difa arfaethedig yn Sir Benfro.
“Hwn yw’r diweddaraf mewn rhestr hir o gamgymeriadau gan y Gweinidog Cefn Gwlad, Elin Jones,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams.
“Mae difa moch daear yn fater sensitif iawn ac mae yna deimladau cryf ar y ddwy ochor. Mae pobol yn colli hyder yn gyflym iawn yn y modd y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymdrin â’r mater.
“Mae angen i’r gweinidog dynnu’i sanau i fyny cyn i’r broses gyfan fynd ar chwâl.”
Roedd y pamffled yn dweud bod profion blaenorol yn dangos bod TB ymysg ych wedi lleihau cymaint â 50% mewn chwe mis.
Mae’r Llywodraeth wedi beio problem wrth olygu’r pamffled, gan ddweud bod difa moch daear yn dechrau dangos effaith ar ôl chwe mis.
Fe fydd y difa yn cael ei gynnal dros gyfnod o bum mlynedd yng ngogledd Sir Benfro a rhan o Geredigion.