Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu datgelu cynlluniau i annog datblygu ynni carbon isel ynghanol honiadau y bydd yn cynyddu biliau ynni teuluoedd o tua £500.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne, yn ymgynghori ynglŷn â mesurau a fydd yn creu mwy o ffatrïoedd ynni “glân”, gan gynnwys gorsafoedd niwclear a ffermydd gwynt.
Mae disgwyl i’r ymgynghoriad awgrymu bod angen gwthio cwmnïau ynni i fuddsoddi biliynau o bunnoedd mewn ynni carbon isel.
Ond mae’r wefan gymharu prisiau uSwitch wedi dweud bod buddsoddi yn y dechnoleg yn debygol o ychwanegu £500 at filiau ynni cartrefi yng ngwledydd Prydain, ar ben costau sydd eisoes yn £1,157 ar gyfartaledd.
Mae Chris Huhne yn gwadu hynny gan ddweud y bydd y diwygiadau’n helpu torri dibyniaeth Prydain ar fewnforio nwy a rheoli codiad prisiau anochel.
Fe allai Llywodraeth San Steffan hefyd osod treth newydd ar danwyddau ffosil gan eu gwneud yn fwy costus nac ynni carbon isel.