Mae Prif Weinidog Prydain wedi bygwth newid y system o dalu lwfansau i ASau oherwydd ei bod yn rhy gaeth.
Fe ddywedodd David Cameron wrth aelodau mainc gefn ei blaid bod y drefn fel y mae “yn gweithio yn erbyn teuluoedd ac yn annerbyniol”.
Fe ddywedodd y byddai’n rhaid i bethau newid, neu y byddai yntau’n gweithredu i orfodi newid yn y flwyddyn ariannol nesa’ ym mis Ebrill.
Roedd y system wedi achosi “llawer o boen ac anhawster”, meddai wrth gyfarfod o Bwyllgor 1922.
Gwrthod cyfrifon
Ond mae’r Swyddfa Gyfrifon Genedlaethol wedi gwrthod cadarnhau rhan o gyfrifon Tŷ’r Cyffredin oherwydd gwerth £13.90 miliwn o lwfansau yn y flwyddyn ddiwetha’.
Yn ôl pennaeth y swyddfa, Amyas Morse, doedd dim dogfennau i gefnogi rhai o’r hawliadau.
Mae Aelodau Seneddol wedi bod yn cwyno am y drefn newydd – IPSA – ers iddi gael ei sefydlu yn sgil y sgandal tros lwfansau.
‘Rhy gaeth’
Maen nhw’n dweud ei bod hi’n rhy gaeth, yn eu gorfodi i wneud gormod o waith papur ac yn cyfyngu ar eu gallu i ddod â’u teuluoedd i Lundain.
Yn ôl IPSA, maen nhw’n gweithredu ar sail penderfyniadau’r gwleidyddion eu hunain ac fe fyddan nhw’n cynnal arolwg blynyddol o’u gwaith ym mis Ionawr.
Llun: Siambr Ty’r Cyffredin