Mae cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad i warchod ardaloedd yn y môr yn “siom gywilyddus”, meddai mudiad ymgyrchu.

Mae’r bwriad i greu tair neu bedair o warchodfeydd dwys, bychain, yn “rhy ychydig ac yn rhy fach”, meddai Cymdeithas Gadwraeth y Môr.

Mae’r Gymdeithas eisiau cynlluniau ar gyfer llawer rhagor o warchodfeydd mwy gyda chyfle i’r cyhoedd roi eu barn arnyn nhw.

Maen nhw’n honni mai dim ond 0.15% o ddyfroedd Cymru fydd yn cael gwarchodaeth ddwys o dan gynlluniau’r Llywodraeth tra bod gwyddonwyr o blaid 20-40%.

O dan y Ddeddf Forol newydd, mae gan y Llywodraeth y grym i greu Parthau Gwarchodaeth môr lle mae gweithgareddau fel pysgota wedi eu gwahardd.

Yn ôl y Gymdeithas, dim ond “diferyn yn y môr” yw cynigion y Llywodraeth yng Nghaerdydd – tri neu bedwar o barthau a’r rheiny’n llai na 5 cilomedr sgwâr.

‘Poblogaidd’

Roedd y Gymdeithas wedi awgrymu 14 o barthau llawer mwy ac, ar ôl pôl ymhlith cwsmeriaid siopau’r Co-op, maen nhw’n dweud bod y cyhoedd yn cefnogi’r syniad.

“Mewn rhannau eraill o’r byd lle mae Gwarchodfeydd Môr wedi eu creu, mae yna brawf eu bod yn gweithio,” meddai swyddog Cymreig y Gymdeithas, Gill Bell.

“Mae gan Lywodraeth y Cynulliad gyfle gwirioneddol i wella ecosystem y môr, sydd wedi dirywio, ac r’yn ni’n galw arnyn nhw i ailystyried. Mae’r cynnig yn annigonol, o ran nifer a maint.”