Fe fydd y cwest yn dechrau heddiw i achos y wraig a gafodd ei lladd gan ei gŵr pan gafodd hunllef yn ei gwsg.

Ychydig tros flwyddyn yn ôl fe gafwyd Brian Thomas o Gastell Nedd yn ddieuog o lofruddio ar ôl i’r erlyniad roi’r gorau i’r achos ar ôl wythnos.

Fe glywodd y llys ar y pryd fod y dyn 60 oed yn diodde’ o gyflwr cwsg anarferol, a hynny’n golygu ei fod yn gweithredu yn ei gwsg heb unrhyw reolaeth tros hynny.

Roedd ef a’i wraig Christine, 57 oed, wedi mynd ar wyliau yn eu fan gampio i Aberporth yng Ngheredigion ym mis Gorffennaf 2008.

Fe ddeffrodd Brian Thomas a chael ei wraig yn farw wrth ei ochr – roedd wedi ei lladd mewn hunllef pan oedd yn credu fod rhywrai wedi torri i mewn i’r fan.

Llun: Llys Ynadon Aberystwyth lle bydd y cwest (HMCS)