Mae rhediad hanesyddol Bangor wedi dod i ben wrth iddyn nhw grafu gêm gyfartal yn erbyn Airbus ar yr Airfield.
Dim ond ar ôl tri munud o amser ychwanegol y llwyddodd y Gleision i sgorio ond fe ddaeth eu cyfres ryfeddol o 15 buddugoliaeth i ben.
Yn ôl y rheolwr, Neville Powell, doedd hynny ddim yn ddiwedd y byd. Doedd y chwaraewyr erioed wedi rhoi gormod o sylw i hynny, meddai.
“Roedden ni jyst yn mynd o gêm i gêm,” meddai wrth Radio Wales. “R’yn ni’n dal i fod yn ddiguro ac mae hynny’n glamp o record ynddo’i hun.”
Y gôls
Roedd Andy Moran wedi rhoi’r tîm cartref ar y blaen ar ôl 52 o funudau ac, er eu bod nhw wedi pwyso a phwyso ar Airbus, roedd hi’n ymddangos bod Bangor am golli.
Ond fe ddaeth Alan Bull i’r adwy ar ôl i’r bêl daro’n ôl oddi ar y bar.
Llun: Yr Airfield, lle daeth y rhediad i ben (David Luther Thomas CCA 2.0)