Mae yna amheuaeth a fydd y gwaith o drydaneiddio rheilffordd y Great Western yn cyrraedd Cymru.

Cyhoeddodd y Llywodraeth Lafur blaenorol y bydden nhw’n creu’r cyswllt cyflym rhwng Llundain ac Abertawe.

Ond mae’n debyg bod un o uwch gyfarwyddwyr Network Rail wedi gadael y gath o’r cwd yn ystod sesiwn holi ac ateb mewn cynhadledd yn Birmingham.

Yn ôl papur newydd y Western Mail dywedodd Richard Eccles, cyfarwyddwr cynllunio cenedlaethol Network Rail, bod gweinidogion eisoes wedi penderfynu na fydd y gwaith yn mynd yn ei flaen.

Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol gan yr Adran Drafnidiaeth am y prosiect £1.1 biliwn yn y flwyddyn newydd.

Bydd sylwadau’r cyfarwyddwr yn cryfhau’r amheuon y bydd y gwaith o drydanu’r rheilffordd yn cyrraedd Bryste ond ddim pellach.

Fis diwethaf beirniadodd Llywodraeth y Cynulliad benderfyniad Llywodraeth San Steffan i ohirio cyhoeddi a fydd lein yn cyrraedd Abertawe tan y flwyddyn newydd.

Mae’r penderfyniad yn cael ei weld yn un allweddol o ran ymrwymiad llywodraeth y glymblaid i Gymru.

Dechrau mis Tachwedd dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y byddai mynd mor bell â Bryste yn unig yn “sarhad” ar Gymru.