Bydd medalau efydd, arian ac aur ar gyfer mabolgampwyr buddugol yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 yn cael eu creu yng Nghymru.

Mae’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf wedi ennill y cytundeb i greu’r 4,700 o fedalau. Mae gan y cwmni tua 800 o weithwyr.

Mae’r cwmni yn y broses o greu rhestr fer o’r artistiaid a fydd yn cynllunio’r medalau. Bydd y cynllun terfynol yn cael ei ddatgelu haf nesaf.

“Rydym ni wrth ein bodd cael gweithio gyda’r Bathdy Brenhinol, cwmni sydd wedi ei sefydlu ym Mhrydain ers 1,100 o flynyddoedd, er mwyn cynhyrchu medalau Llundain 2012,” meddai Paul Deighton, prif weithredwr y Gemau Olympaidd.

Dywedodd gweinidog treftadaeth yr wrthblaid, Mohammad Asghar, bod y cytundeb yn brawf y bydd Cymru ar ei ennill o ganlyniad i’r Gemau Olympaidd.

“Mae hwn yn gyfle mawreddog ac yn dangos y gall busnesau o Gymru gyda gweithlu ymroddedig fanteisio ar y Gemau Olympaidd yn 2012,” meddai.