Fe fydd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn cadeirio ymgyrch ‘Ie’ o blaid mwy o bwerau deddfu i Gymru.

Swyddogaeth Roger Lewis fydd arwain tîm o ymgyrchwyr ar draws Cymru er mwyn ceisio ennyn cefnogaeth i fwy o bwerau i’r Cynulliad yn y bleidlais ar 3 Mawrth.

Roedd pôl piniwn dros y penwythnos gan gwmni Beaufort Research yn awgrymu y bydd 60% o bobol Cymru yn pleidleisio o blaid mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad.

Holodd yr arolwg 1,012 o bobol ar draws Cymru rhwng 19 a 28 Tachwedd, gan ddefnyddio yr un cwestiwn a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y refferendwm ar 3 Mawrth.

“Rwy’n falch o fod wedi derbyn y cais i gadeirio’r ymgyrch gan bob plaid i sicrhau llais cryfach i Gymru,” meddai Roger Lewis.

“Mae’r refferendwm yn gyfle i uno ein cenedl a byddaf yn gweithio gyda’r holl bleidiau gwleidyddol a phobol o bob maes, yn enwedig pobol fu erioed yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol, i gefnogi pleidlais Ie ar Fawrth 3.”

Roedd yn siarad mewn digwyddiad yn y Barri i lansio gwefan yr ymgyrch gyda phlant o Ysgol Gynradd Ynys y Barri.

“Ymgyrch y bobol, nid ymgyrch y gwleidyddion, fydd hon. Rydym eisiau i bobol Cymru uno y tu ôl i’r egwyddor syml y dylai cyfreithiau sy’n effeithio ar Gymru yn unig gael eu gwneud yng Nghymru,” meddai.

“Wnawn ni ond ennill os bydd gennym wirfoddolwyr ym mhob tref a phentref yn pledio’r achos dros bleidlais Ie. Os yw pobol am i Gymru gael llais cryfach, dwi’n eu hannog i gofrestru eu cefnogaeth i wefannau ein hymgyrch www.yesforwales.com ac www.iedrosgymru.com.”

(Llun: Gwefan Undeb Rygbi Cymru)