Mae’r datgeliadau diweddara’ ar wefan Wikileaks yn dangos bod Libya wedi addo pob math o roddion i Lywodraeth yr Alban am ryddhau bomiwr Lockerbie, Abdelbaset al-Megrahi.

Roedd arweinydd y wlad, y Cyrnol Gaddafi, hefyd wedi bygwth torri cysylltiadau masnach gyda gwledydd Prydain ac, yn ôl y negeseuon dirgel, roedd diplomyddion yn ofni y byddai Libya’n dial ar bobol o Brydain.

Roedd y negeseuon rhwng diplomyddion yr Unol Daleithiau’n awgrymu bod Llywodraeth yr Alban wedi gwrthod yr holl addewidion ond wedi cael eu syfrdanu gan yr ymateb ffyrnig i’r penderfyniad i anfon al Megrahi yn ôl i ysbyty yn Libya am resymau trugarog.

Ansicrwydd

Er hynny, mae’r dogfennau sy’n cael sylw ym mhapur newydd y Guardian, yn dangos bod ansicrwydd am hyd bywyd tebygol y bomiwr a oedd yn diodde’ o ganser – rhwng deunaw mis a phum mlynedd.

Maen nhw hefyd yn dangos bod trafodaethau’n digwydd rhwng y llywodraethau yng Nghaeredin a Llundain a bod Prydain “mewn lle anodd iawn” tros y mater.

Mae Abdelbaset al-Megrahi yn parhau’n fyw fwy na blwyddyn ar ôl ei ryddhau.

‘Hel clecs’

“Dim ond hel clecs” yw’r dogfennau, yn ôl Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, ond roedden nhw, meddai, yn dangos bod Llywodraeth yr Alban wedi bod yn onest tra bod Llywodraeth Gwledydd Prydain yn dwyllodrus.

Llun: Carchar Greenock lle’r oedd al-Megrahi’n cael ei gadw (Thomas Nugent CCA 2.0)