Wrth i filoedd o fyfyrwyr baratoi i brotestio heddiw, fe gadarnhaodd dau o dri Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, y byddan nhw’n pleidleisio yn erbyn y mesur dadleuol i godi ffioedd prifysgol.

Mae Roger Williams o Frycheiniog a Maesyfed a Mark Williams o Geredigion wedi dweud y byddan nhw’n gwrthryfela yn erbyn eu Llywodraeth eu hunain.

Ond mae’r trydydd, Jenny Willott, AS Canol Caerdydd, wedi gwrthod datgelu ei bwriad, er ei bod mewn etholaeth sy’n cynnwys miloedd o fyfyrwyr.

Os bydd hi’n pleidleisio yn erbyn codi ffioedd, fe fydd hi’n colli ei swydd yn aelod iau o’r Llywodraeth Glymblaid yn San Steffan.

Addewidion

Ddoe, fe gyhoeddodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, y bydd holl aelodau’r blaid yn y Cabinet yn cefnogi’r mesur sy’n rhoi hawl i brifysgolion godi ffioedd o ychydig dros £3,000 i hyd at £9,000.

Cyn yr etholiad, roedd y blaid wedi addo gwrthwynebu cynnydd ac yng nghytundeb Llywodraeth y Glymblaid, roedden nhw wedi cadw’r hawl i atal eu pleidlais.

Fe fydd myfyrwyr yng Nghymru yn ymuno mewn protestiadau a gweithredu heddiw – fe fydd unrhyw fyfyrwyr o Loegr neu’r Alban sydd ym mhrifysgolion Cymru yn wynebu’r cynnydd ffioedd.

Sylwadau’r ASau

“Mae bron yn gwbl sicr y bydda’ i’n pleidleisio yn erbyn,” meddai Roger Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn San Steffan. “Mae consesiynau’n cael eu cynnig yn rheolaidd, ond fy nheimlad i yw bod y polisi sylfaenol yn ddiffygiol.”

Mae AS Ceredigion, Mark Williams, sy’n cynrychioli myfyrwyr Aberystwyth a Llanbed, wedi dweud na fydd ei gydwybod yn caniatáu iddo bleidleisio o blaid y cynnydd.

“Mae unrhyw gynnydd yn y ffioedd yn annerbyniol,” meddai. “Mae rhai syniadau da yn y mesur fel y cymorth i fyfyrwyr rhan amser a chodi’r trothwy talu’n ôl i £21,000.

“Ond mae’r cynnydd aruthrol yn y ffioedd eu hunain yn golygu na alla’ i hyd yn oed ystyried pleidleisio o blaid.
“Rwy’n canmol ymgyrchu positif myfyrwyr dros yr wythnosau diwethaf yma ac yn teimlo ein bod ni wedi gweithio fel tîm ar hyn.”

Llun: Mark Williams (o’i wefan)